Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol.

4/12/15

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

Cadeirydd: Mark Isherwood AC

Ysgrifenyddiaeth: Meleri Thomas, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru

  1. Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi.

Mark Isherwood AC, Aled Roberts AC, Jeff Cuthbert AC a Rhodri Glyn Thomas AC

 

  1. Cyfarfodydd Blaenorol y Grŵp.

 

Cyfarfod 1.

 

Dyddiad y cyfarfod:        10 Mehefin 2015

Yn bresennol:                 (Yn atodedig)

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Cofnodion isod

 

Cyfarfod 2.

 

Dyddiad y cyfarfod:        11 Medi 2015

Yn bresennol:                  (Yn atodedig)

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Cofnodion isod

 

Cyfarfod 3.

 

Dyddiad y cyfarfod:        18 Tachwedd 2015

 

Yn bresennol:                 (Yn atodedig)

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Cofnodion isod

  1. Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 


 

Creatasmile Gogledd Cymru: Yr Hen Ysgol, Ffordd Tywyn, Tywyn, Conwy, LL22 9ER

 

 

Your Space: Black Parc, Halton, Wrecsam LL14 5BB

 



Grŵp Cymorth Awtistiaeth a Syndrom Asperger Gwynedd a Môn: Ffordd Crwys, Bangor, LL57 2NT

 

 

Autism Wishes: Llys Westfield, Wrecsam, Clwyd, LL13 8JA

 

 

Chwaraeon Anabledd Cymru:  Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW

 

 

 

 


 

 


Datganiad Ariannol Blynyddol.

4/12/15

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

Cadeirydd: Mark Isherwood AC

Ysgrifenyddiaeth: Meleri Thomas, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru

Treuliau’r Grŵp.

[talwyd gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru]

 

Teithio o Gaerdydd i Wrecsam [Red Spotted Hanky] 1/9/15

 

Llety yn Wrecsam [Premier Inn] 4/8/15

£64.00

 

 

 

 

£198.00

Cost yr holl nwyddau.

 

Ni phrynwyd nwyddau.

£0.00

Buddiannau a gafwyd gan y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol.

 

Ni chafwyd buddiannau.

£0.00

Ysgrifenyddiaeth neu gymorth arall.

 

Ni chafwyd cymorth ariannol.

£0.00

Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, fel lletygarwch.

 

Talwyd am yr holl luniaeth gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru.

 

Dyddiad

Disgrifiad o’r darparwr a’i enw

 

Cost

10/6/15

18/11/15

Charlton House

Charlton House

£65.64

£49.92

Cyfanswm y costau

 

£377.56

 

 

 

 

 

Cofnodion  

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

 10 Mehefin 2015

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1 CROESO

Croesawodd Jeff Cuthbert AC, Swyddog y Grŵp Trawsbleidiol a’r Cadeirydd dros dro, bawb i ail gyfarfod 2015.

Yn bresennol roedd yr Aelodau Cynulliad canlynol: Aled Roberts; a William Powell. Roedd cynrychiolwyr o swyddfeydd Suzy Davies a Mark Isherwood hefyd yn bresennol.

 

2 COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF A MATERION YN CODI

Nid oedd dim materion yn codi a chytunwyd bod y cofnodion yn gofnod cywir o’r cyfarfod blaenorol.

 

3 Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GYNLLUN CYFLAWNI DROS DRO LLYWODRAETH CYMRU AR AWTISTIAETH

Rhoddodd Meleri Thomas, Rheolwr Materion Allanol Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am gynnydd o ran gwaith ‘adnewyddu’ parhaus Llywodraeth Cymru ar ei Strategaeth Awtistiaeth. Dywedodd Meleri wrth y grŵp fod y gwaith yn dal ar y gweill gan y Llywodraeth i asesu effaith y ddeddfwriaeth newydd ar y Strategaeth Awtistiaeth, ac felly maent yn hytrach wedi cyhoeddi cynllun cyflawni dros dro ar gyfer 2015-16, gan nodi camau gweithredu ar unwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Gellir gweld y Cynllun Cyflawni dros dro yma: http://www.asdinfowales.co.uk/resource/150518_ASD-interim-delivery-plan-2015-16.pdf

 

3.1 Codwyd cwestiynau ynghylch manylion nifer o’r camau gweithredu a restrir yn y Cynllun Cyflawni Dros Dro. Gofynnodd Michael Williams am y cyfeiriad at ‘Arian cyfrifon cwsg’ sydd i dalu am raglen cyflogadwyedd awtistiaeth. Dywedodd Jeff Cuthbert wrth y Grŵp y dosberthir yr arian hwn gan Lywodraeth Cymru o arian sydd mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu segur.

3.2 Holodd David Malins ynghylch effeithiolrwydd y Prosiect Monitro Cymunedol fel y cyfeirir ato yn y Cynllun Cyflawni Dros Dro. Y cam yw parhau gyda’r prosiect fel ag y mae.

 

4 CHWARAEON ANABLEDD CYMRU

Bu Dan Bufton, y Swyddog Chwaraeon i Bobl Anabl ar gyfer Merthyr Tudful yn trafod y prosiectau parhaus yn yr ardal a’r cydweithredu sy’n mynd ymlaen â changen Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ym Merthyr. Dywedodd mai ychydig iawn o gyfleoedd oedd i bobl ag Awtistiaeth yn y gorffennol, ond mae’r cydweithredu â’r gangen wedi creu posibiliadau newydd ar gyfer unigolion sydd ag awtistiaeth. Mae’r prosiectau a gynhelir ar hyn o bryd yn cynnwys dringo creigiau, llythrennedd corfforol, cofrestru/PECs yn ogystal ag ymwybyddiaeth ehangach o awtistiaeth ymhlith staff mewn cyfleusterau chwaraeon a hamdden yn y Sir.

 

4.1 Bu Jill Grange, swyddog Cangen Pen y Bont ar Ogwr o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn siarad am yr effaith gadarnhaol y mae gweithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru wedi’i chael yn ei hardal. Gall y gangen bellach gynnig jiwdo, golff, nofio ac athletau i’w haelodau.

4.2 Gofynnodd Ann Fowler a oedd terfyn oedran ar gyfer unigolion a allai gael cefnogaeth gan Chwaraeon Anabledd Cymru. Dywedodd Dan Bufton nad oedd unrhyw gyfyngiadau o ran oedran.

4.3 Roedd Alwyn Rowlands, sy’n rhedeg grŵp cymorth Awtistiaeth ac Asperger Gwynedd ac Ynys Môn hefyd yn cytuno bod y cyllid ar gyfer rhaglenni Chwaraeon Anabledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth ledled Cymru.

4.4 Gofynnodd Alis Hawkings, Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, gyda’r duedd fyd-eang nad yw llawer o bobl sydd ag awtistiaeth, yn enwedig pobl iau, yn nodi eu hunain fel ‘pobl anabl’, tybed a all hyn fod yn rhwystr iddynt ddewis cael mynediad at y gwasanaethau gwych hyn ai peidio.

4.5 Dywedodd Theresa James, yr Arweinydd ASD ar gyfer Cyngor Sir Fynwy fod y gwaith sy’n digwydd yn ei hardal hi yn arbennig o addawol, gan fod pob cyfleuster hamdden a chwaraeon yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol o Awtistiaeth.

4.6 Adroddodd Dan Bufton hanes dyn ifanc ag awtistiaeth sy’n Llysgennad Ifanc Chwaraeon Anabledd Cymru ac sy’n aelod o’r grŵp llywio. Cafodd y rhaglenni chwaraeon effaith trawsnewidiol arno ef.

4.7 Dywedodd Ruth Jones, Swyddog Cangen Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru Merthyr Tudful, er bod y rhaglenni hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, yn enwedig i’r rhai sydd â syndrom Asperger, nid oedd unigolion ag awtistiaeth clasurol yn cael darpariaeth yn yr un modd. Soniodd Ruth ynglŷn â pha mor anodd ydoedd i gael therapi galwedigaethol pwysig, sy’n hanfodol ar gyfer ei mab ei hun.

 

4.    TRENAU ARRIVA CYMRU: AWTISTIAETH A THRAFNIDIAETH

Amlinellodd Michael Vaughan a Ben Davies, cynrychiolwyr o gwmni Trenau Arriva Cymru eu polisïau ar gyfer sicrhau hygyrchedd i bawb. Soniwyd am ymrwymiad y cwmni i leihau allgau cymdeithasol drwy bolisi cadarnhaol ar gyfer gwella mynediad at wasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ag anableddau. Dywedasant y byddant yn gweithio’n agos gyda chyfeillion yn y diwydiant rheilffyrdd i gyflawni hyn lle maent hwy’n gyfrifol am y ddarpariaeth neu’n berchen ar y cyfleusterau. Ar ddiwedd eu cyflwyniad, bu’r ddau yn hyrwyddo’r cynllun Waled Oren, sy’n anelu at roi syniad i staff y gall unigolyn fod ag anghenion teithio ychwanegol. Pwysleisiodd Michael a Ben eu bod ar gael i wrando ar broblemau ac i gynnig atebion, ac agorwyd y drafodaeth i’r gynulleidfa.

 

5.1 Dywedodd Mat Mathias o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru ei fod yn croesawu unrhyw beth a ddarperir i gefnogi pobl i deithio’n annibynnol, fel y Cynllun Waled Oren, y mater hollbwysig yw natur yr hyfforddiant a ddarperir i staff i gefnogi pobl ag anableddau. Dywedodd Ben fod hyn yn fater parhaus, a bod hyfforddiant gloywi ar gyfer staff yn cael ei gynnig bob 16 wythnos.

5.2 Gwnaeth Louise Rixon y pwynt na all hi ddefnyddio’r trên fel dull o drafnidiaeth gyda’i mab, gan nad yw’r toiled a’r cyfleusterau newid yn gydnaws â’u hanghenion. Pan fydd cyfleusterau newid ar gael, maent ar gyfer plant bach iawn yn unig. Dywedodd Trenau Arriva Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod pob gorsaf a thrên yn hygyrch, ac wrth i wasanaethau newydd gael eu datblygu, y byddant yn ystyried anghenion cyfnewidiol eu cwsmeriaid.

5.3 Soniodd Janet Williams am brofiad gwael a gafodd ei mab wrth ymdrin â staff yn yr orsaf drenau yn Abertawe. Awgrymodd hi nad yw ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth yr hyn y dylai fod ar hyn o bryd.

5.4 Dywedodd Colin Foster, o Gangen Merthyr Tudful o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru bod pasbortau ASC yn cael eu datblygu a gofynnodd a oeddent yn gydnaws â chynllun y Waled Oren. Yn yr un modd, soniodd gan Alka Ahuja am yr ap ffôn symudol sy’n darparu darlun o unigolion a’u hanghenion. Awgrymwyd y byddai unrhyw beth sy’n helpu i gyfleu anghenion ychwanegol unigolyn yn ddefnyddiol i staff.

 

6 CATH DYER

Roedd Cath Dyer eisiau diweddaru’r grŵp ar gynnydd ei merch Claire ers cael gwared ar ei Dynodiad. Bu Claire yn ffynnu gartref o dan ei threfniadau cymorth newydd a bu’n canu yn y seremoni Enwebiadau y Gwobrau Arwr Awtistiaeth a bydd yn gwneud hynny eto yn y Seremoni Wobrwyo. Dywedodd Cath ei bod hi’n mwynhau bod gartref, wedi ei amgylchynu gyda’i theulu a’i ffrindiau o’i chwmpas, ac mae’n falch o gael ei chefnogi gan bobl sy’n deall awtistiaeth.   

6.1 Roedd Jeff Cuthbert yn falch o weld cynnydd Claire a dywedodd bod modd dysgu llawer o’r achos hwn.

 

7 MATERION A GODWYD

7.1 Siaradodd Keith Ingram yn fyr am rywfaint o waith sy’n cael ei gyflawni gyda Chanolfannau Gwaith ac mae am roi cyhoeddusrwydd i adnoddau newydd sydd ar gael ar-lein. Gellir eu gweld yma: http://www.asdinfowales.co.uk/home.php?page_id=8722

7.2 Roedd un o drigolion Caerdydd yn awyddus i godi mater lleol. Yn yr adolygiad diwethaf yr oedd hi wedi’i fynychu, roedd seiciatrydd ei mab wedi dweud wrthi eu bod o dan gyfarwyddyd i beidio â gweld plant ag awtistiaeth, nad oedd â chyflwr arall yn cyd-fynd ag ef. Byddai hyn yn golygu nad oes llwybr diagnostig ar gyfer awtistiaeth. 

7.3 Gofynnodd David Malins am fwy o fanylion ar y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer CAMHS. Hoffai wybod sut yn union y bydd yn cael ei wario ac a yw’n arian a ddyrannwyd yn flaenorol mewn mannau eraill. Dywedodd David hefyd nad yw gwasanaethau ar ôl diagnosis ar gyfer oedolion ar gael, a nododd ei sefyllfa ei hun fel enghraifft o rywun sydd wedi cael diagnosis ac na all gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arno.

 

4. PWYNTIAU GWEITHREDU

Bydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael rhagor o fanylion ar y cyhoeddiad diweddar am fwy o arian ar gyfer gwasanaethau diagnostig o ran CAMHS.

 

5. UNRHYW FATER ARALL

Dyddiad a lleoliad cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol: 11 Medi 2015 / Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam. Bydd y cyfarfod canlynol yng Nghaerdydd ar 18 Tachwedd 2015 yn adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

 11 Medi 2015

Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam

 

1 CROESO

Croesawodd Mark Isherwood, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth, bawb i’r cyfarfod yng ngogledd Cymru. 

Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod roedd Aled Roberts AC, Swyddog y Grŵp. Nododd Mark fod ymddiheuriadau wedi’u hanfon gan Aelodau Cynulliad eraill a fethodd â bod yn bresennol a chroesawodd dîm cyfieithu’r Cynulliad. Rhoddodd Mark hefyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am y gwaith parhaus sy’n cael ei wneud yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys dadl Breifat yr Aelodau ar Ddeddf Awtistiaeth ym mis Ionawr. Croesawodd Mark y sefydliadau amrywiol sy’n cyflwyno adroddiadau i’r grŵp heddiw.

 

2 COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF A MATERION YN CODI

Nid oedd dim materion yn codi a chytunwyd bod y cofnodion yn gofnod cywir o’r cyfarfod blaenorol.

 

3 AUTISM WISHES

Rhoddodd Mandy Neal a Jo Perera grynodeb o waith yr elusen Autism Wishes a chwaraewyd fideo sy’n tynnu sylw at eu llwyddiant hyd yma. Cafwyd cwestiwn gan y Grŵp am ystodau oedran o ran y cynllun chwarae a ddarperir ganddi. Mae’r grŵp wedi’i anelu at bobl iau yn bennaf, ond mae croeso i bawb.

 

4 ANGIE ATHERTON

Soniodd Angie am ei phrofiadau personol a chwaraeodd fideo a oedd yn dangos ei hanes hi a’i mab. Datgelodd Angie, ar ôl nodi bylchau o ran gwasanaethau, sut y mae hi wedi sefydlu ei gwasanaeth cymorth ei hun i helpu pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd. Roedd hi hefyd am dynnu sylw at waith Grŵp Sir y Fflint ar Awtistiaeth. Dywedodd aelod o’r grŵp, sydd wedi cael cymorth gan Angie, bod yr help a gafodd wedi bod yn amhrisiadwy.

 

5 "YOURSPACE" CYMRU

Soniodd Tamara Hall am y gwaith a wneir gan "Your Space" i gefnogi pobl ag awtistiaeth yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys eu clybiau cymdeithasol a’r gweithgarwch amrywiol a drefnir ganddynt.

 

6 CREATASMILE

Bu Sharon Bateman yn siarad am sut y sefydlwyd y Creatasmile a’r gwaith a wna ar draws y rhanbarth. Hefyd, soniodd Sharon am grant ariannu newydd gan y Loteri Cod Post a sut y bydd hwn yn caniatáu iddynt ehangu eu gwaith.

 

7 CANGEN WRECSAM O’R GYMDEITHAS GENEDLAETHOL AWTISTIAETH

Soniodd Kerry Roberts a Kelly McLeod-Andrews am y gwaith y mae’r Gangen wedi’i wneud yn y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys llwyddiant y cynllun codi arian Stryd Fawr Iach a’u digwyddiadau hustyngau etholiad. Gofynnwyd cwestiwn am y cymorth o ran prifysgolion y mae’r Gymdeithas yn ei ddarparu yng Ngogledd Cymru. Cytunodd Meleri Thomas o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru i drafod y ddarpariaeth sydd ar gael ar ôl y cyflwyniad.

 

8 JO TAYLOR O GYNGOR SIR Y FFLINT

Trafododd Jo, ynghyd â’i chyd-weithiwr Trevor Brand, y dull a ddefnyddir gan yr awdurdod i gefnogi pobl ag awtistiaeth. Rhoddwyd enghreifftiau o achosion diweddar sy’n dangos sut y mae unigolion wedi cael eu cefnogi. Hefyd, soniodd Jo am y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd drwy’r gwasanaeth cymorth a monitro cymunedol, ac, er bod y cyllid ar gyfer y gwasanaeth hwn yn dod i ben, mae rhanbarth gogledd Cymru yn gobeithio treialu gwasanaeth newydd a fydd yn datblygu’r gwaith hwn. Sicrhaodd Jo hefyd fod y grŵp yn ymwybodol o wefan Gwybodaeth am ASD Cymru a’r adnoddau sydd ar gael o ran cyflogaeth. Roedd ymholiadau gan y Grŵp, i gael eglurder ar y cymorth sydd ar gael. Dywedodd Jo nad oes gwasanaeth generig, ond fod cymorth yn cael ei deilwra i helpu i sicrhau canlyniadau penodedig. Eglurodd Prif Weithredwr Cymdeithas Awtistiaeth Cilgwri y berthynas sydd ganddynt ag awdurdod lleol Sir y Fflint. Dywedodd aelod arall o’r Grŵp, ar ôl cael ei atgyfeirio at Jo, bod ei mab wedi gwneud cynnydd mawr.

 

9 GRŴP CYMORTH AWTISTIAETH A SYNDROM ASPERGER GWYNEDD AC YNYS MÔN

Soniodd Alwyn Rowlands am yr amrywiaeth o waith sy’n cael ei wneud gan ei sefydliad, gan gynnwys gweithio gyda myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddarparu’r clwb Sbectrwm. Hefyd, nododd Alwyn arwyddocâd cynnal cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth yn y Gogledd, un o’r ychydig gyfarfodydd a gaiff eu cynnal y tu allan i Gaerdydd, a thalodd deyrnged i Aelodau’r Cynulliad sydd wedi dod i’r cyfarfod. Awgrymodd Alwyn Rowlands fod y momentwm a oedd yn deillio yn sgîl cyflwyno Strategaeth Awtistiaeth Llywodraeth Cymru yn lleihau, a chyfeiriodd at yr enghraifft o golli David Oliver i’r ardal yn hyn o beth. Gorffennodd Alwyn ei gyflwyniad drwy ddweud nad oes digon o wasanaethau i gyfateb i’r cynnydd mewn cyfraddau diagnosis, yn enwedig ar gyfer unigolion nad oes ganddynt gyflwr iechyd meddwl sy’n cyd-ddigwydd, neu anabledd dysgu. Ail-nododd bwysigrwydd y grwpiau cymorth a’r sefydliadau sydd wedi gwneud cyflwyniadau yng nghyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol heddiw.

 

10. UNRHYW FATER ARALL

Gofynnodd Elin Walker Jones sut y gallai’r Grŵp helpu i gefnogi galwad Mark Isherwood a Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru am Ddeddf Awtistiaeth. Dywedodd Mark fod yr holl bleidiau yn drafftio eu maniffestos ar hyn o bryd, a dylai’r Grŵp ddefnyddio’r cyfle i ddweud eu barn yn glir wrth eu Haelodau Cynulliad. Soniodd fod y rhai sy’n cefnogi ei alwad am Ddeddf yn ei ddadl Aelodau Preifat wedi’u nodi yn [ http://www.assembly.wales/en/bus-home/pages/rop.aspx?meetingid=3102&assembly=4&c=Record%20of%20Proceedings&startDt=18/01/2015&endDt=24/01/2015&keyword=autism].

 

Atgoffodd Meleri Thomas o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru y grŵp am gyngerdd am ddim a gaiff ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar gyfer rhieni a gofalwyr pobl ag awtistiaeth. Bydd y cyngerdd yn cynnwys y pianydd Norika Ogowa; a bydd yn dechrau am 1030 ar 29 Medi.

 

Rhoddodd aelod arall o’r Grŵp fanylion ar sefydliad arall sy’n cynnig therapi lleferydd ac iaith i grwpiau.

 

Dyddiad a lleoliad cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth: 18 Tachwedd 2015 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 12:15pm a 13:15pm.

 

 

 

 

 

 

 

 

Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

18 Tachwedd 2015

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1 WELCOME / CROESO

Croesawodd Mark Isherwood, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth bawb i gyfarfod olaf y Grŵp yn 2015. 

Roedd Wiliam Powell AC hefyd yn bresennol yn y cyfarfod ynghyd â chynrychiolydd o swyddfa Simon Thomas AC.

 

2 COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF A MATERION YN CODI

Nid oedd dim materion yn codi a chytunwyd bod y cofnodion yn gofnod cywir o’r cyfarfod blaenorol.

 

3 YMCHWIL I BROFIADAU RHIENI DISGYBLION DUON A LLEIAFRIFOEDD ETHNIG SYDD AG AWTISTIAETH

Rhannodd Dr Sheladevi Nair ei phapur ymchwil gyda’r Grŵp. Roedd y papur yn edrych yn fanwl ar brofiadau a chanfyddiadau rhieni disgyblion duon a lleiafrifoedd ethnig (BME) ag awtistiaeth a’r cymorth y maent hwy a’u plant yn ei gael mewn ysgolion prif ffrwd ac mewn ysgolion arbennig yn ardal dinas drefol mewn awdurdod lleol yn ne Cymru. Roedd y papur hefyd yn edrych ar ganfyddiadau rhanddeiliaid mewn addysg a sefydliadau cymorth perthnasol sy’n darparu cymorth ar gyfer y disgyblion hyn a’u rhieni.

 

Daeth Dr Nair ymchwil i’r casgliad bod:

 

4 ADDYSG A GOFAL

Amlinellodd Colin Howarth o grŵp Orbis y ddarpariaeth amrywiol gan y grŵp i blant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth. Maent yn cynnig amgylcheddau diogel a chefnogol i ddysgu, ennill sgiliau bywyd a gwaith, i ddatblygu hyder a hunan-barch, ac i helpu unigolion i gael bywyd da ac mor annibynnol â phosibl.

 

Hefyd amlinellodd Colin wasanaethau newydd Orbis ym Mhort Talbot, ac eglurodd y cysyniad o ‘The Orb’ – gwasanaeth dydd newydd yn y Porth, sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau ac amgylcheddau dysgu y gellir eu darparu ar y cyd ag ysgol, neu fel dewis arall i leoliad coleg ffurfiol ar ôl gadael yr ysgol.

 

5 CLUDIANT I’R YSGOL

Tynnodd Lisa Rapado o Gangen Ystradgynlais o’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth sylw at nifer o broblemau gyda chludiant i’r ysgol, ac at anghysondebau o ran y ddarpariaeth ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cam i’w gymryd: y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth i ysgrifennu at y Gweinidog Trafnidiaeth i geisio cael eglurhad ar y Canllawiau o ran trafnidiaeth ysgol.

 

 

10. UNRHYW FATER ARALL

 

Dyddiad a lleoliad cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth: 24 Chwefror 2015 yn swyddfa Cynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 12:15pm a 13:15pm.